Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad drafft CLAC ar Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

Mae'r ymateb hwn yn cyfeirio at Bwynt Technegol sy’n codi yn adroddiad drafft CLAC ar Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019, mewn cysylltiad â rheoliad 8 (yn Rhan 2 o'r Rheoliadau).  Dan Reoliad 8, mae'n ofynnol i berchennog ofyn i'r corff dyroddi addasu neu ddiweddaru dogfen adnabod y ceffyl, os yw'r person cyfrifol (y perchennog neu'r ceidwad) yn credu bod angen addasu neu ddiweddaru unrhyw fanylion adnabod yn y ddogfen. Mae'r pwynt a godir gan CLAC yn ymwneud ag achosion pan fo'r ceidwad cyfrifol yn geidwad (yn hytrach nag yn berchennog), pan fo posibilrwydd nad yw perchennog yn ymwybodol o farn y ceidwad bod angen newid dogfen adnabod y ceffyl. Mae Rheoliad 22(1) yn darparu bod perchennog yn euog o drosedd os yw'n torri gwaharddiad, neu'n methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n gymwys i berchennog, gan gynnwys o dan Ran 2.  Felly, mae CLAC yn pryderu bod posibilrwydd i berchennog gyflawni trosedd, a chael ei gosbi am y drosedd honno, pan nad oedd yn gwybod, ac efallai na allai fod wedi gwybod, fod angen newid y ddogfen adnabod.

Rydym wedi ystyried y pwynt technegol hwn yn ofalus.  Wrth ddrafftio rheoliad 8, dibynnwyd ar Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/262 (o ran y dulliau adnabod equidae) sy'n darparu: ‘Member States and the issuing bodies referred to in Article 5(1)(a) and Article 5(1)(b) may require that the application to an issuing body for obtaining an identification document as provided for in Article 11 or for modifying identification details in an existing identification document as provided for in Article 27 is to be submitted by the owner’. Penderfynwyd ar y dull hwn er mwyn bod yn gyson â’r rhwymedigaeth sydd ar berchennog i wneud y cais am ddogfen adnabod ceffyl. Rydym yn cydnabod nad yw rheoliad 8 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 yn gosod cyfrifoldeb penodol ar y person cyfrifol – pan fo'r person hwnnw yn geidwad – i roi gwybod i'r perchennog os yw'r ceidwad yn credu bod angen addasu neu ddiweddaru unrhyw fanylion yn y ddogfen adnabod.  Rydym o'r farn nad yw hyn yn hollol angenrheidiol, yng ngoleuni geiriad Erthygl  3(2) o Reoliad 2015/262: ‘where the keeper is not the owner or one of the owners of the equine animal, it shall act in accordance with this Regulation on behalf of and in agreement with the owner’. Yn ymarferol, mae'r berthynas rhwng y ceidwad a'r perchennog yn dueddol o fod yn un dda, lle y byddai gwybodaeth sy'n ymwneud â'r angen i addasu manylion adnabod yn gallu cael ei throsglwyddo'n hawdd rhwng y ddau berson. 

Erbyn meddwl, a chan gydnabod bod perchennog yn euog o drosedd pan fo methiant i gydymffurfio â'r gofyniad dan reoliad 8, rydym yn cydnabod y bydd diwygio rheoliad 8 yn sicrhau mwy o eglurder. Ar ôl ystyried y mater yng ngoleuni'r pwynt a nodwyd, rydym yn bwriadu diwygio'r Rheoliadau cyn gynted â phosibl, er mwyn darparu pan fo perchennog yn credu bod angen newid neu ddiweddaru manylion adnabod yn nogfen adnabod y ceffyl, boed yn unol ag Erthygl 27(1) neu fel arall, rhaid i'r perchennog ofyn i'r corff dyroddi addas neu ddiweddaru'r ddogfen. Dyna'r hyn sy'n cael ei wneud dan y rheoliadau cyfatebol yn Lloegr, ac mae'n cael gwared ar y posibilrwydd na fyddai perchennog yn ymwybodol o farn y ceidwad bod angen newid y ddogfen adnabod. Bydd yn cynnwys drafftio OS byr a fydd yn rhoi 'perchennog' yn lle 'person cyfrifol' yn rheoliad 8, a bydd modd gwneud hynny dan y weithdrefn penderfyniad negyddol.  Rydyn ni o'r farn bod hyn yn mynd i'r afael â'r pwynt a godir gan CLAC yn ei adroddiad drafft.